Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol y Grŵp Trawsbleidiol ar Ddiwygio Ariannol

Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol

Lleoliad: Ystafell Gynadledda 2, y Pierhead                             Dyddiad: 12 Mawrth 2014

Cadeirydd: Darren Millar AC                     Cyflwyniad: Fran Boait, Positive Money UK

1. Cyflwyniad ac ymddiheuriadau

D. Millar:Croesawodd yr aelodau i’r Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol a nododd bod Dylan Jones Evans wedi anfon ei ymddiheuriadau na allai fod yn bresennol i drafod yr Adolygiad o’r Cyllid sydd ar Gael i Fusnesau, a diolchodd i Fran am gytuno i ddod i roi anerchiad heddiw. Cafwyd ymddiheuriadau hefyd gan Graham Morgan o Siambr Fasnach De Cymru.

Cyflwyniad i Fran o Positive Money UK, sy’n codi’r mater o ddiwygio ariannol.

2. Pwnc: Goresgyn Dyled ac Anghydraddoldeb drwy Addysg

F. Boait:Yn wreiddiol, roedd Fran yn wyddonydd, yn gweithio ar dechnoleg dal carbon, ond daeth terfyn ar arian ar gyfer ymchwil i’r gwaith hwn, a barodd iddi gwestiynu’r system ariannol, a dechreuodd weithio i Positive Money UK, i godi ymwybyddiaeth o’r modd y caiff arian ei greu ar draul cymdeithas.

Mae arnom angen arian ar gyfer popeth, ond sut y mae’n gweithio? Yn gyffredinol, y gred yw bod arian yn cylchdroi rhwng pobl sy’n benthyca arian a phobl sy’n cynilo arian, gyda banciau’n gweithredu fel cyfryngau, a bod y cylch hwn yn parhau am byth. Nid yw hyn yn wir, a chaiff arian newydd ei greu yn bennaf drwy roi benthyciadau.

Mae dau fath o arian ar gael: i) arian sy’n para am byth h.y. arian parod sydd hyd at 3% o’r cyflenwad arian a ii) a benthyciadau gwariadwy, sef y 97% arall.

Gwneir arian parod gan Fanc Lloegr, ond caiff y gweddill ei greu gan fanciau preifat drwy broses fenthyca, ac mae’n bodoli fel cofnodion digidol. Arweinir y broses hon gan chwech o fanciau yn unig.

(O.N. yn amlwg mae Banc Lloegr yn cytuno â’r pwynt hwn, fel y gwelir yn y trydariadau isod a gyhoeddwyd ar Fawrth 14)

Description: https://gallery.mailchimp.com/7396d6c5dc44c9d3b64d8265c/images/Screen_Shot_2014_03_14_at_12.22.46.pngDescription: https://gallery.mailchimp.com/7396d6c5dc44c9d3b64d8265c/images/Screen_Shot_2014_03_14_at_10.17.53.png

Gallwch ddarganfod beth sydd gan Fanc Lloegr i’w ddweud drwy glicio yma

Mae’r syniad o arian parhaol a bod y banciau yn gweithredu fel cyfryngau yn unig yn anghywir.

Gallwn gymharu’r cyflenwad arian â dŵr mewn bath. Pan fydd y banciau yn benthyca, mae’r tapiau wedi’u troi ymlaen, ac mae’r economi yn tyfu. Fodd bynnag, pan gaiff y plwg ei dynnu, bydd yr arian yn draenio o’r economi pan gaiff benthyciadau eu had-dalu. Os caiff benthyciadau eu had-dalu’n gyflymach nag y gwneir benthyciadau newydd yna byddwn yn gweld cwymp yn swm yr arian sydd yn yr economi. 

Faint o arian a grëwyd? Yn y flwyddyn 2000 crëwyd £857 biliwn, ac erbyn 2008 roedd y swm wedi cynyddu i £2,185 biliwn. Mae hyn yn swnio’n dda, ond gwyddom ni beth a ddeilliodd o hynny.

Mae banciau’n rhoi benthyciadau i’r cyhoedd, ac mae’r cyhoedd yn gwneud ad-daliadau gyda llog ar ei ben.

Cyfanswm y llog = £108 biliwn i £227 biliwn             Y swm cyfartalog ar gyfer pob person = £2,400 to £4,822

Beth fydd yn digwydd i arian sydd newydd gael ei greu?        Pwy fydd yn penderfynu sut i ddefnyddio arian newydd?

Mae gan y pum Banc mwyaf 78 o aelodau yn unig ar eu byrddau, a hwy yw’r bobl a ddyrannodd swm o £2.9 triliwn dros gyfnod o bum mlynedd.

I ble’r aeth yr arian? 40% ar Eiddo, 37% i’r maes Ariannol, 13% i’r meysydd heb fod yn ariannol a 10% mewn benthyciadau cardiau credyd.

Nid yw eiddo na’r sector ariannol yn gynhyrchiol h.y nid ydynt yn gwneud unrhyw beth. Byddant yn gwneud elw drwy dybiaethau. Mae’r economi gynhyrchiol yn y sector heb fod yn ariannol, ac yn aml bernir ei bod yn ormod o risg, neu nad yw’n rhoi digon o elw, felly nid yw’n cael cymaint o arian newydd o fenthyciadau gan y banciau.

Dyna’r rheswm pam y byddwn yn profi ffyniant ysbeidiol yn y farchnad eiddo neu asedau, a’r cylch o lanw a thrai.

Cefnogir safbwynt Positive Money gan ddatganiadau gan Mervyn King, cyn Lywodraethwr Banc Lloegr, Martin Wolf, Golygydd y Financial Times, a’r Arglwydd Adair Turner, cyn-Gadeirydd yr Awdurdod Gwasanaethau Ariannol (FSA).

Rydym yn dibynnu ar y banciau am ein cyflenwad arian. Os na fydd y banciau yn benthyca, ni fydd arian ar gael. Dyna pam y mae gwleidyddion mor awyddus i sicrhau bod y banciau yn benthyca unwaith eto. Mae’r cynllun Cymorth i Brynu wedi cynyddu nifer y morgeisi a roddir i’r un lefel uchel ag yr oedd cyn yr argyfwng ariannol, ond mae’r gyfradd fenthyciadau i fusnesau bach a chanolig yn llusgo o hyd, ac mae’n bosibl y bydd angen ysgogiad gan y Llywodraeth.

Pam fod y bwlch rhwng pobl gyfoethog a phobl dlawd yn lledu? (Incwm is = Ad-daliadau uwch)

Dros y degawd diwethaf, mae’r banciau wedi rhoi dros driliwn o bunnoedd fel IOUs. Yr hyn y byddant yn ei gael am ddim yw gwerth triliwn o bunnoedd o asedau a gaiff eu diogelu mewn eiddo, a llafur y cyhoedd yn y dyfodol yn y DU.

Yn sgîl llog cyfansawdd ar fenthyciadau, mae cyfanswm y ddyled yn fwy na’r arian a roddir gan y Banc, sy’n golygu bod prinder arian. Dengys y graffiau (gweler y ffeil ynghlwm) lefelau benthyca o’u cymharu â chynilion, a symiau incwm cartrefi a gaiff eu trosglwyddo i Fanciau. Mae bod mewn dyled yn dod yn fwy cyffredin.

Roedd model o ddiffyg rheoleiddio yn bwydo arferion economaidd o or-ddefnyddio lle roedd dyledion yn sail i’r gor-ddefnyddio.

Mae pobl gyfoethog yn gwario dyled ar asedau sy’n cynyddu o ran eu gwerth.

Mae pobl dlawd yn gwario dyled ar ddefnyddiau traul sy’n gostwng o ran eu gwerth.

Y rheol yw, i gael rhagor o arian, rhaid i ni gael dyled fwy, ac i gael llai o ddyled rhaid i ni ymdrin â llai o arian. Mae angen rhagor o arian a llai o ddyled arnom, ond mae hyn yn amhosibl yn y system bresennol.

Addysg, addysg, addysg

Pam mae mor anodd i ni ddeall? Nid yw economegwyr yn deall arwyddocâd creu arian yn iawn, oherwydd nid yw’r pwnc yn cael blaenoriaeth ar gyfer ei addysgu mewn prifysgolion. Mae Victoria Chick yn egluro yn y fideo hwn

Mae myfyrwyr ym Mhrifysgol Manceinion wedi gwneud safiad, ac maent yn galw am newid y sylabws i gyfrif am yr argyfwng economaidd, a bod creu arian yn cymryd rôl mwy canolog.

Mae’r grwpiau yn cynnwys y Post-Crash Economics Society, Cambridge Society for Economic Pluralism, a ‘We’re Re-Thinking Economics Are You?’

Pam nad yw Aelodau Seneddol yn deall hyn? 20 yn unig o Aelodau Seneddol a ofynnodd gwestiynau am y cam Lliniaru Meintiol o £375 biliwn yn Senedd y DU. Gyda swm mor enfawr o arian byddem wedi disgwyl rhagor o waith craffu. Mae’r Marchnadoedd Stoc yn cyrraedd uchelfannau newydd, ar ôl dangos diffyg cyn y cam Lliniaru Meintiol, drwy bryniant Bondiau Llywodraeth.

Y disgwyl yw y byddai cyfranddalwyr yn teimlo’n gyfoethocach ac yn gwario rhagor yn yr economi real, ond y gwir yw, eu bod yn prynu mwy o gyfranddaliadau ac yn damcaniaethu ymhellach i gael rhagor o enillion, fel y dengys y dystiolaeth sydd ar gael.

Ar gyfer bob £1 a gaiff ei gwario drwy Liniaru Meintiol, byddwn wedi gweld codiad o ddim ond 8c yn y cynnyrch mewnwladol crynswth ar gyfartaledd. Mae’r amcangyfrifon yn awgrymu enillion llawer uwch ar gyfer y diwydiant adeiladu, er enghraifft, yn ol data y CBI.

Mae cynigion Positive Money ar gyfer Creu Arian Sofran yn cynnwys cam bod Banc Lloegr neu’r Pwyllgor Rheoli Ariannol yn penderfynu ar ffigur o arian newydd i ysgogi’r economi, a gallai’r Llywodraeth ddyrannu wedyn, fel y gwêl yn briodol.  Gallai ddewis lleihau trethi, lleihau’r diffyg, cynyddu gwariant ar y seilwaith neu ar dai cymdeithasol, neu ddarparu difidend i’r dinesydd i ysgogi galw gan ddefnyddwyr. Gan ddibynnu ar beth yw’r opsiynau, bydd arian a ddewisir naill ai’n cael ei dynnu allan neu’n cael ei ddosbarthu drwy’r economi sawl gwaith.

Ar hyn o bryd mae nifer o felinau trafod yn edrych ar faterion sy’n gysylltiedig â hyn:

Indebted lives: the complexities of life in debt (Y Gwasanaeth Cynghori Ariannol)

Tomorrow’s Borrowers (Benthycwyr Yfory. Sefydliad Smith)

MAXED OUT Serious personal debt in Britain (y Ganolfan Cyfiawnder Cymdeithasol).

Description: _Zero-credit_Limited.jpgDescription: cab-logo.gifDescription: debtawarenessweel.jpgDescription: stepchange.jpgDescription: moneyadviceservice.jpg

Mae sefydliadau fel http://mybnk.org/ yn gwneud gwaith rhagorol i godi ymwybyddiaeth o faterion yn ymwneud ag arian.

 

Description: new-lmw.bmp

 

Ceir dadansoddiad y mudiad ‘Positive Money’ a’i weledigaeth, yn y llyfr Modernizing Money, sydd ar gael am £15.

Description: pmconference2013 378_EDITED.jpg

Mae arian yn fater byd-eang, ac mae’r Mudiad Diwygio Ariannol Rhyngwladol yn tyfu, ac mae grwpiau yn cael eu sefydlu mewn 19 o wledydd ar hyd a lled y byd.

3. Sesiwn holi ac ateb

D. Macaskill: Nid yw yn erbyn dyled, ond ymddengys y byddai proses mwy democrataidd o greu arian yn rhesymol, i gael gwared â breintiau’r banciau preifat. Mae arian a gaiff ei greu er mwyn damcaniaethu yn anghynaliadwy, a bydd dyledion yn trosglwyddo o’r sector preifat i’r sector cyhoeddus fel y digwyddodd gyda’r arian i ‘achub croen’. A oes angen dileu’r dyledion?

F.Boait: Mae llywodraethu yn fater allweddol. Ni ddylai’r un bobl greu a dyrannu arian, oherwydd bydd buddiannau yn sicr o wrthdaro â’i gilydd. Rydym yn galw am wahanu pwerau. Mae grwpiau eraill yn galw am ddyled jiwbili, ond rydym ni o’r farn bod economi sydd wedi’i datblygu ar sylfeini cadarnach yn fwy cynaliadwy. Mewn gwledydd fel Gwlad yr Iâ, Denmarc a Seland Newydd mae arwyddion eu bod yn barod i roi blaenoriaeth i anghenion y cyhoedd a buddiannau cyffredinol yn hytrach nag i elw preifat.

M. Ford: Onid ydych yn troi yn ei unfan yn hyn o beth? Beth sydd wedi newid ers 1929? Nid oes dim wedi newid.

F. Boait: Mae addysg yn cynnig gobaith. Nid oes dim pwrpas mewn curo ar ddrysau caeëdig. Nid oes digon o bobl yn deall o ble y daw arian, felly dyna’r man cychwyn yn fy marn i.

C. Stoodley: Mae arian yn fath o reolaeth ac mae arnom ‘ni’ angen system glirio, fel y digwyddodd pan aeth yr hwch drwy’r siop yn y banciau ac achubwyd eu croen gan arian gan y gwleidyddion, i sicrhau bod y cylch ariannol yn yn dal i droi.

D. Millar: Mae’n ymddangos yn anghywir bod y banciau yn creu arian o ddim, gydag ychydig iawn o risg na gwariant iddynt eu hunain.

H. White: Dylai’r cyflenwad arian adlewyrchu’r cynnyrch mewnwladol crynswth. Os nad ydynt yn gydnaws â’i gilydd, byddwn yn gweld chwyddiant ac ansefydlogrwydd yn yr economi. Mae angen arian arnom ar gyfer buddsoddiadau yn y dyfodol, a gallai’r Llywodraeth naill ai wario’n uniongyrchol neu orfodi’r banciau i fenthyca arian i fusnesau, yn arbenig i fusnesau bach a chanolig.

S. Mann: Os byddwn yn dibynnu ar gynilion ar gyfer ein buddsoddiadau, a oes rheidrwydd arnom i dderbyn twf llai?

D. Millar: Nid yw hwn yn fater i’r ochr chwith neu’r dde, ond gall fod yn fater y mae pob plaid yn unedig yn ei gylch.

F. Boait: Mae gennym dwf ‘ffug’ oherwydd mae wedi’i seilio ar bris yn hytrach na gwir werth. Edrychwch ar eiddo, nid oes digon o gartrefi yn cael eu hadeiladu, ac mae prisiau yn codi’n aruthrol. Pe bai arian yn cael ei wario ar gynyddu gallu, drwy seilwaith, byddem yn disgwyl ‘gwell’ twf.

D. Millar: Mae’n bwysig nodi nad yw’r gyfraith yngylch creu arian wedi’i diweddaru ers Deddf y Siarter Banc 1844 gan Syr Robert Peel. Mae’n hen bryd ei diweddaru o bosibl?

 

 

4.Bil Addysg a Chynhwysiant Ariannol (Cymru) Plaid Cymru

Mae Duncan Higgit a Bethan Jenkins AC yn dechrau’r ymgynghoriad o ran parhau a gwella lefel addysg ariannol drwy’r cwricwlwm ysgol.

 

5. Gŵyl Merthyr Rising

J. Lilley: Ar Fai 31 bydd Merthyr Tuful yn cynnal gŵyl ymylol i gofio am y Merthyr Rising gwreiddiol yn 1831. Bydd siaradwyr o Gynulliad y Bobl, Stop the War ac awdur Economics of the 1%, John Weeks. Bydd ffilmiau’n cael eu dangos, perfformiadau celfyddydol, comedi a cherddoriaeth gan westeion arbennig iawn.

 

6. Unrhyw fater arall

D. Millar: Oherwydd bod hwn yn Gyfarfod Cyffredinol Blynyddol, gallwn ail-ethol i swydd Cadeirydd ac Ysgrifennydd y Grŵp. Mae’r grŵp yn cytuno y dylai Darren barhau fel Cadeirydd a Justin barhau fel Ysgrifennydd.

Grŵp Trawsbleidiol ar Ddiwygio Ariannol

I gael rhagor o wybodaeth cysylltwch â Justin Lilley yn positivetrigger@gmail.com